Y mae yna ymdeimlad o hanes ac o gyfnodau cyn-hanes yn treiddio
trwy Gaernarfon. Pan gyrhaeddodd Edward I yma yn 1284, yr oedd wedi gwirioni efo Segontium, y gaer a oedd ym meddiant y Rhufeiniaid hyd at 383 O.C. Yn yr un modd, yr oedd y ffaith fod ei ragflaenydd Normannaidd, larll Hugh, wedi adeiladu mwnt a beili yng Nghaernarfon yn 1086 O.C. wedi cael cryn argraff arno - a hynny, mae'n debyg, ar safle'r castell presennol lle cynhaliodd Llywelyn Fawr ei lys yn y drydedd ganrif ar ddeg.
Mae dadansoddiad o'r dref gaerog yn awgrymu mai cynllun hannercylch oedd iddi, yn mesur tri chan metr ar ei thraws fel Avebury, ac felly yn gyn-hanesyddol.
Yng ngeiriau'r Athro Dewi Prys Thomas, a oedd yn bensaer ymgynghorol ar gyfer Adeiladau'r Cyngor Sir o fewn waliau'r dref, aeth Edward I ati yn rhodresgar i 'gymryd mantell' yr Ymerawdwr Cwstennin. Mae'n debyg fod hyn yn wir oherwydd fe gysylltodd Segontium a mwnt Iarll Hugh trwy linell sylfaen a ddefnyddiodd i osod allan ei gastell a'r dref, a thrwy hynny gysylltu llinach y Rhufeiniaid, y Cymry, a'r Normaniaid.
Cyn cyrraedd Caernarfon, roedd Edward eisoes wedi cynllunio ac adeiladu niter o drefi caerog yn Ffrainc. Mae'n debygol i Gaernarfon gael ei phatrymu ar Montpazier, gan gael ei rhannu yn 64 o leiniau adeiladu neu fwrdeisi - pob un ohonynt yn mesur 80 troedfedd wrth 60 troedfedd. Enghraifft dda o hyn yw'r darn tir lle adeiladwyd Neuadd y Farchnad yn Stryd y Plas.
Yng Nghaernarfon, mae'n anodd iawn anwybyddu hanes.
Ffynhonnell: Caernarfon 2000 ~ Nodweddion mewn Tref Frenhinol. |