Cyngor Tref Frenhinol Caernarfon
Cyngor Tref Frenhinol Caernarfon
Archif Newyddion
Cylch Cyfeillgarwch Tefi Caerog
 
Gefeillyd a Landerne, Llydaw

Noson sefydlu'r Maer Mai 2010

Yr Ymweliad Brenhinol i Gaernarfon 27/04/10

***************************************************************


Gwarchodlu Cymreig yn orymdeithio trwy Caernarfon



***************************************************************

Mi fydd y Gwarchodlu Cymreig yn orymdeithio trwy Caernarfon Dydd Mercher yma sef Mawrth 24 2010-O 11.30.

Dewch yn llu i ddangos ein cefnogaeth a gwerthfawrogiad am hyn yr hyn maent yn eu wneud drosta ni

11.30 gadael y Barracks

11.45 - 12.15 archwilio ar y maes

12.15 - 12.30 orymdeithio o amgylch y castell

***************************************************************

Nadolig LLawen a blwyddyn newydd dda i bawb 

  

M fydd Goleuadau Nadolig yn cael eu rhoi ymlaen am 5 o gloch Nos Fercher Rhagfyr 2il- Y Maes , Caernarfon

Hefyd bydd y noson Carolau a Dathlu'r Geni byw yn cymeryd lle Nos Wener Rhagfyr 11 fed am 5.45, gorymdaith o tu allan i Boots, lawr i'r Maes ar gyfer y Dathlu Geni am 6.00 yna draw i Neuadd y Farchnad (ar ol canu un carol yn Turf Square) ar gyfer Gwobwryo Tai a ffenstri Dolig gorau ac eitemau eraill .

Mae'r Cyngor yn ddiolchgar i'r ysgolion lleol am eu cefnogaeth ac i Band Llanrug

am eu parodrwydd bob amser. Noddir y gystadleuaeth ardduno tai gan Fron Goch ac wrth gwrs mae pawb yn ddiolchgar iddynt am eu cefnogaeth unwaith yn rhagor

Bydd yr holl weithgareddau yn dod i derfyn oddeutu 7.30 yh


 

Noson Y Maer 2009
cliciwch yma i weld lluniau o'r noson.

 

 

 


 

Cynrychiohvyr o Clwb Rygbi Caernarfon- Rhoddwyd gwahoddiad iddynt i'r Siambr yn dilyn eu llwyddiant diweddar a chyflwynodd Y Maer Cyng Myfi Powell-Jones darian y Cyngor iddynt i ddangos ein gwerthfawrogiad. Cliciwch ar y llun i'w chwyddo

 


Diwrnod y Feteneriaid / Veterans Day

Cawsom ddiwrnod i gofio yma yng Nghaernarfon dydd Sadwrn, Cyn Filwyr, teuluoedd a milwyr presennol, Nifer wedi dod yn ôl yn dilyn llwyddiant y digwyddiad flwyddyn diwethaf.

Roeddem yn Ffodus iawn o gael Derek Twigg AS - Gweinidog y Feteraniaid yma i gyflwyno bathodynnau i nifer o'r Feteraniaid. Braf iawn oedd gweld orymdaith mor hir yn cynnwys feteraniaid o bob oed yn ogystal a milwyr presennol. Roedd y tywydd yn glen gan i'r glaw arafu mewn da bryd ar gyfer y gwasanaeth a'r orymdaith o amgylch y dref. Braf oedd clywed hod holl westai y dref yn llawn ai gyfer y digwyddiad, Gobeithio bod pawb wedi mwynhau.

Cofiwch os oes na unrhyw plentyn lleol ( oed Cynradd) oedd yn y digwyddiad - Mae croeso i chi gymeryd rhan yn ein cystadleuaeth. Ysgrifennu adroddiad am y diwrnod ( heb fod yn fwy na 200 eiriau) a'i dychwelyd i clerc y dref erbyn dydd Llun 14 Gorffenaf


Noson y Maer 2008
cliciwch yma i weld y lluniau.

 

 


Cystadleuaeth Ffenestri Siopau a Thai Nadolig 2007

Noson wobrwyo cystadleuaeth Ffenestri Siopau a Thai Nadolig Cyngor Tref Frenhinol Caernarfon

Cynhaliwyd y noson wobrwyo nos Fawrth, 15fed o Ionawr 2008

Cliciwch yma i weld lluniau'r noson wobrwyo a chanlyniadau'r gystadleuaeth


Noson Garolau, Rhagfyr 2007

Cliciwch yma i weld lluniau o'r noson

 


GOLEUNI’R DOLIG
NOS WENER RHAGFYR 14eg, Rhwng 5.45 a 7.00 yr hwyr
Cyfarfod wrth y ffownten (Boots), Gorymdaith gyda tortsh I Neuadd y Farchnad

EITEMAU GAN YSGOLION:
Ysgol Santes Helen, Hendre a Gelli
Côr Cynghorwyr Tref Caernarfon a
Dathlu’r Geni gan Cyngor Eglwysi’r Dre

TREFNI’R Y NOSON GAN CYNGOR TREF FRENHINOL CAERNARFON

TORTSHYS AR GAEL IW PRYNNU RHWNG 5-6 AR Y NOSON TU ALLAN I BOOTS


Seremoni Sul y Cofio 11.11.07

Cliciwch ar yr isod i weld fideo byr o'r Seremoni.


Cliciwch yma i weld lluniau Seremoni Sul y Cofio.


Cystadleuaeth Arddio 2007

Noson wobrwyo cystadleuaeth gerddi Cyngor Tref Frenhinol Caernarfon



Cynhaliwyd noson wobrwyo flynyddol y Cyngor yn yr Institiwt, Nos Fercher Hydref 10fed.

Fron Goch oedd prif noddwyr y noson, ynghyd â Chyngor Gwynedd a Chyngor Tref Frenhinol Caernarfon.

Diolchwn i Mr Dafydd Williams am ei waith trylwyr fel beirniad.

Y Maer, Cyng. Myfi Powell-Jones oedd yn gwobrwyo’r ennillwyr

Cliciwch yma i weld lluniau'r noson wobrwyo.
Cliciwch yma i weld canlyniadau'r gystadleuaeth.


Gorffenaf 14ydd 2007 - Diwrnod Y Feteraniaid yng Nghaernarfon.
Diwrnod gwych a gafwyd gan bawb yn Caernarfon Dydd Sadwrn. Roedd yna dorf o filoedd yn gwylio'r gwasanaeth tu allan i'r Clwb Hwylio. Dros 500 o Feteraniaid o bob gornel o Gogledd Cymru a bellach draw yn gorymdeithio o amgylch y Dre, a'r tywydd yn coroni'r diwrnod. Cafwyd adloniant gan Gôr Meibion Caernarfon a corffluoedd drumiau yr ATC yn y babell.

Llongyfarchiadau i bawb oedd ynghlwm a'r trefniadau i'r digwyddiad arbennig hwn, gan obeithio y daw yn ôl y flwyddyn nesaf.

Gwelir lluniau o'r gwasanaeth a'r orymdaith yn y prynhawn ynghyd a lluniau o Tabyrddu'r Enciliad gyda'r nos lle cymerodd Band Catrodol Y Cymru Brenhinol, Corffluoedd Drymiau Cyfunol llu Cadlanciau'r fyddin o Clwyd a Gwynedd yn ogystal a Band Mor-Filwyr Brenhinol Ei Mawrhydi Plymouth rhan...


Mehefin 2007
Derbyniodd y Gwarchodlu Cymreig, Rhyddfreiniaeth Bwrdeistref Brenhinol Caernarvon, Dydd Sadwrn 10fed Mai 1958

Ail anrhegwyd gyda Rhyddfreiniaeth Tref Frenhinol Caernarfon gan Gyngor Tref Frenhinol Caernarfon, Dydd Iau 28fed Mehefin 2007

cliciwch yma i weld mwy o luniau


Noson y Maer 2007
cliciwch yma i weld y lluniau.

 


Os na allwch ddod o hyd i’r wybodaeth yr ydych angen mae croeso i gysylltu gyda ni cliciwch yma.
© Cyngor Tref Frenhinol
Caernarfon, 2007
Adeilad yr Institiwt, Allt y Pafiliwn, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1AT
ffôn: 01286 672 943 | ffacs: 01286 676 392
 

Dyluniwyd gan Delwedd

Print Page Marciwch Ni E-bostiwch ni ar clercydref@caernarfontowncouncil.gov.uk Sôn wrth ffrind Cylch Cyfeillgarwch Tefi Caerog Cyngor Tref Frenhinol Caernarfon